Acts 9:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot yr Arglwydd wrthaw. Dos ymaith, can ys mae ef yn llestr etholedic y mi, y ddwyn vy Enw rac bron y Cenetloedd, a’ Brenhinedd a’ phlant yr Israel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrtho y dywedodd yr Arglwydd, Dos, canys llestr etholedig i Mi yw hwn, i ddwyn Fy enw ger bron cenhedloedd a brenhinoedd, a meibion Israel.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Arglwydd wrtho, “Dos di, canys llestr dewis i mi yw hwn, i ddwyn fy enw ger bron y cenhedloedd a’r brenhinoedd, a cher bron meibion Israel;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Dos ymaith: canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond meddai'r Arglwydd wrth Ananias, “Dos! Dyma'r dyn dw i wedi ei ddewis i ddweud amdana i wrth bobl o genhedloedd eraill a'u brenhinoedd yn ogystal ag wrth bobl Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd yr Arglwydd wrtho, "Dos di; llestr dewis i mi yw hwn, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd a'u brenhinoedd, a cherbron plant Israel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, canys llestr etholedig i mi yw hwn, i ddal i fyny fy enw o flaen cenhedloedd, a brenhinoedd, a meibion Israel.