Acts 9:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Ananias aeth ymaith, ac aeth y mewn ir tuy, ac a osodes ei ddwylo arnaw, ac a ddyvot, Brawd Saul, yr Arglwydd am danvonawdd (ys ef Iesu yr hwn a ymddangoses yty ar y ffordd wrth ddyvot) y dd erbyn o hanot dy ’olwc, ac ith gyflawner or Yspryt glan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth Ananias ymaith, ac aeth i mewn i’r tŷ; ac wedi dodi arno ei ddwylaw, dywedodd, Shawl frawd, yr Arglwydd a’m danfonodd, Iesu yr Hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost, fel y gwelych eilwaith ac y’th lanwer â’r Yspryd Glân.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Aeth Ananias ymaith ac aeth i mewn i’r tŷ, ac wedi dodi ei ddwylo arno fe ddywedodd, “Y brawd Saul, yr Arglwydd a’m hanfonodd, — Iesu, a ymddangosodd iti ar y ffordd y deuthost, — fel y ceffych dy olwg yn ôl a’th lanw â’r Ysbryd Glân.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ananeias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i'r tŷ; ac wedi dodi ei ddwylo arno, efe a ddywedodd, Y brawd Saul, yr Arglwydd a'm hanfonodd i, (Iesu yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost,) fel y gwelych drachefn, ac y'th lanwer â'r Ysbryd Glân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Ananias yn mynd. Aeth i mewn i'r tŷ, gosod ei ddwylo ar Saul a dweud wrtho, “Saul, frawd. Mae'r Arglwydd Iesu, wnaeth ymddangos i ti ar dy ffordd yma, wedi fy anfon i atat ti er mwyn i ti gael dy olwg yn ôl, a chei dy lenwi â'r Ysbryd Glân hefyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Ananias ymaith ac i mewn i'r tu375?, a rhoddodd ei ddwylo arno a dweud, "Y brawd Saul, yr Arglwydd sydd wedi yr un a ymddangosodd iti ar dy ffordd yma er mwyn iti gael dy olwg yn l, a'th lenwi 'r Ysbryd Gln."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac Ananias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i'r ty, a chan ddodi ei ddwylaw arno, a ddywedodd, Frawd Saul, y mae yr Arglwydd wedi fy anfon i, sef Iesu, yr hwn a ymddangosodd i ti yn y ffordd y daethost, fel y gweli drachefn, ac y'th lanwer â'r Yspryd Glân.