Acts 9:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac archodd lythyrae ganthaw ir Damasco at y Synagogae, a chaffaei ef neb rei oedd or ffordd hon no (ai yn wyr ai yn wragedd) vod iddo y dwyn hwy yn rhwym i Gaerusalem.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a ddeisyfiodd ganddo lythyrau i Damascus, at y sunagogau, fel os cai rai o’r ffordd honno, na gwŷr na gwragedd, y dygai hwynt yn rhwym i Ierwshalem.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a cheisiodd ganddo lythyrau at y synagogau yn Namascus, fel os câi ef rywrai o deulu’r Ffordd, yn wŷr a gwragedd, y dygai hwynt yn gaeth i Gaersalem.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddeisyfodd ganddo lythyrau i Ddamascus, at y synagogau; fel os câi efe neb o'r ffordd hon, na gwŷr na gwragedd, y gallai efe eu dwyn hwy yn rhwym i Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
i ofyn am lythyrau i synagogau Damascus yn rhoi'r hawl iddo arestio unrhyw un oedd yn dilyn y Ffordd. Roedd ganddo awdurdod i gadw dynion a merched yn y ddalfa a mynd â nhw'n gaeth i Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a gofyn iddo am lythyrau at y synagogau yn Namascus, fel os byddai'n cael hyd i rywrai o bobl y Ffordd, yn wu375?r neu'n wragedd, y gallai eu dal a dod hwy i Jerwsalem.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a geisiodd ganddo lythyrau i Damascus, at y Synagogau, fel, os caffai rai oedd o'r Ffordd, yn wyr a gwragedd, y dygai hwynt yn rhwym i Jerusalem.