Acts 9:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ chwithaw a wnaeth ar pawp ei clybu, a’ dywedyt, Anid hwn yw ef, y oedd yn destryw yr ei ’alwent ar yr Enw hwn yn‐Gaerusalem, ac a ddaeth yma er mwyn hyn ys ef ei y dwyn hwy yn rhwym at yr Archoffeiriait.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A synnodd yr holl rai a glywent, a dywedasant, Onid hwn yw’r dyn a anrheithiai yn Ierwshalem y rhai a alwent ar yr enw hwn; ac yma, er mwyn hyn y daeth, fel y dygai hwynt yn rhwym ger bron yr archoffeiriaid?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A synnai pawb a’i clywai, a dywedyd, “Onid hwn yw’r un a ddifrododd yng Nghaersalem y rhai a alwai ar yr enw yma, ac onid i hyn y deuthai yma, i’w dwyn yn gaeth o flaen yr archoffeiriaid?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phawb a'r a'i clybu ef, a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn yw yr un oedd yn difetha yn Jerwsalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth yma er mwyn hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym at yr archoffeiriaid?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pawb a'i clywodd wedi eu syfrdanu. “Onid dyma'r dyn wnaeth achosi'r fath drafferth i'r rhai sy'n dilyn yr Iesu yma yn Jerwsalem? Roedden ni'n meddwl ei fod wedi dod yma ar ran y prif offeiriaid i arestio'r bobl hynny a'u rhoi yn y carchar.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd pawb oedd yn ei glywed yn rhyfeddu. "Onid dyma'r dyn," meddent, "a wnaeth ddifrod yn Jerwsalem ar y rhai sy'n galw ar yr enw hwn? Ac onid i hyn yr oedd wedi dod yma, sef i fynd hwy yn rhwym at y prif offeiriaid?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phawb a glybu a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn oedd yr un a anrheithiodd yn Jerusalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac yr oedd wedi dyfod yma i'r dyben hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym o flaen yr Arch‐offeiriaid?