Acts 9:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy dyvot Saul i Gaerusalem, y profawð e ymwascy a’r discipulon: ac ydd oeðent oll yn y ofny ef, gan ancredy y vot ef yn ðiscipul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod i Ierwshalem, ceisiai ymgyssylltu â’r disgyblion; a phawb a’i hofnent ef, gan na chredent ei fod yn ddisgybl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi cyrraedd Caersalem ceisiai ymwasgu â’r disgyblion; a phawb a’i hofnai ef, heb gredu ei fod yn ddisgybl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Saul, wedi ei ddyfod i Jerwsalem, a geisiodd ymwasgu â'r disgyblion: ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb gredu ei fod ef yn ddisgybl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddodd Saul Jerwsalem, ceisiodd fynd at y credinwyr yno, ond roedd ganddyn nhw ei ofn. Doedden nhw ddim yn credu ei fod wedi dod yn Gristion go iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo gyrraedd Jerwsalem ceisiodd ymuno 'r disgyblion; ond yr oedd ar bawb ei ofn, gan nad oeddent yn credu ei fod yn ddisgybl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi dyfod i Jerusalem, efe a geisiodd lynu wrth y Dysgyblion: ond yr oeddynt oll yn ei ofni ef, gan na chredent ei fod yn ddysgybl.