Acts 9:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Barnabas y cymerawdd ef, ac ei duc at yr Apostolon, ac vanagawdd yddwynt pa vodd y gwelsai ef yr Arglwydd ar y ffordd, a’ bod iddo lavaru wrthaw, ac mor hyderus y llavaresei ef yn Damasco yn Enw yr Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond Barnabas, gan ei gymmeryd ef, a’i dug at yr apostolion, a mynegodd iddynt pa fodd y bu iddo ar y ffordd weled yr Arglwydd, ac y llefarodd Efe wrtho, a pha fodd yn Damascus y llefarai yn hyderus yn enw yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr Barnabas a gymerth afael ynddo, a’i ddwyn at yr apostolion, ac adroddodd iddynt pa fodd y gwelsai’r Arglwydd ar y ffordd ac iddo lefaru wrtho, a pha fodd yn Namascus y traethodd yn hy yn enw Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Barnabas a'i cymerodd ef, ac a'i dug at yr apostolion, ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan ohono ag ef, ac mor hy a fuasai efe yn Namascus yn enw yr Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Barnabas yn ei dderbyn, ac yn mynd ag e at yr apostolion. Dwedodd wrthyn nhw sut gwelodd Saul yr Arglwydd pan roedd yn teithio i Damascus, a beth oedd yr Arglwydd wedi ei ddweud wrtho. Hefyd dwedodd ei fod wedi pregethu am Iesu yn gwbl ddi-ofn pan oedd yn Damascus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cymerodd Barnabas ef a mynd ag ef at yr apostolion, ac adroddodd wrthynt fel yr oedd wedi gweld yr Arglwydd ar y ffordd, ac iddo siarad ag ef, ac fel yr oedd wedi llefaru yn hy yn Namascus yn enw Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Barnabas a'i cymerodd, ac a'i dyg at yr Apostolion, ac a adroddodd iddynt pa fodd yn y ffordd y gwelodd yr Arglwydd, ac y llefarodd efe wrtho, a pha fodd yn Damascus y pregethodd yn hyf yn enw yr Iesu.