Acts 9:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a lavarodd yn eon yn Enw yr Arglwydd Iesu, ac ef a gympwyllawdd ac a ymddadleawdd a’r Groecieit: ac wy ntvvy a geisiesont y ladd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A llefarai ac ymddadleuai yn erbyn yr Iwddewon Groegaidd; a hwy a geisiasant ei ladd ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac fe lefarai ac ymddadleuai gyda’r Helenistiaid; hwythau, ceisient ei ladd ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan fod yn hy yn enw yr Arglwydd Iesu, efe a lefarodd ac a ymddadleuodd yn erbyn y Groegiaid; a hwy a geisiasant ei ladd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Buodd yn siarad ac yn dadlau gyda rhyw Iddewon Groegaidd, ond y canlyniad oedd iddyn nhw benderfynu ei ladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan lefaru'n hy yn enw yr Arglwydd; byddai'n siarad ac yn dadlau gyda'r Iddewon Groeg eu hiaith, ond yr oeddent hwy'n ceisio'i ladd ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan bregethu yn hyf yn enw yr Arglwydd: ac efe a lefarai ac a ymddadleuai yn erbyn yr Iuddewon Groegaidd; a hwy a geisiasant ei ladd ef.