Acts 9:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mal ydd oedd ef yn ymddaith, e ðarvu val y dy nesaawdd ef ar Ddamasco, yn ddisyvyt y llewychawdd oei amgylch ’olauni or nef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth fyned o hono, bu iddo nesau i Damascus, ac yn ddisymmwth y llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar ei ffordd bu iddo agoshau at Ddamascus, ac yn ddisymwth fflachiodd o’i gwmpas oleuni o’r nef;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus: ac yn ddisymwth llewyrchodd o'i amgylch oleuni o'r nef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn agos at Damascus pan fflachiodd golau disglair o'r nefoedd o'i gwmpas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd ar ei daith ac yn agosu at Ddamascus, yn sydyn fflachiodd o'i amgylch oleuni o'r nef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, darfu iddo neshau i Damascus: ac yn ddisymwth llewyrchodd o'i amgylch oleuni o'r Nef: