Acts 9:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yð oeð yr Ecclesi dd yn cael heddwch trwy ’r oll Iudaia, a’ Galilaia, a’ Samareia, ac ei hadailiadwyt, gan yddwynt rodiaw yn ofn yr Arglwyð, ac ei lliosocwyt trwy ddiddanwch yr Yspryt glan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, yn wir, yr eglwys trwy holl Iwdea a Galilea a Shamaria a gafodd heddwch, gydag adeiladaeth; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Yspryd Glân y lliosogid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cafodd yr eglwys, ynteu, drwy holl Iwdea a Galilea a Samaria heddwch i ymsefydlogi, a chan rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, lluosogai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr eglwysi trwy holl Jwdea, a Galilea, a Samaria, a gawsant heddwch, ac a adeiladwyd; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, hwy a amlhawyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl hyn cafodd yr eglwys yn Jwdea, Galilea a Samaria gyfnod o dawelwch a llwyddiant — roedd ffydd y credinwyr yn cryfhau ac roedd eu niferoedd yn tyfu hefyd. Roedden nhw'n byw mewn ffordd oedd yn dangos eu bod yn ofni'r Arglwydd, a'r Ysbryd Glân yn eu hannog yn eu blaenau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr eglwys yn awr, drwy holl Jwdea a Galilea a Samaria, yn cael heddwch. Yr oedd yn cryfhau, a thrwy rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Ysbryd Gln yn mynd ar gynnydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny, yn wir, yr Eglwys trwy holl Judea, a Galilea, a Samaria, a gafodd heddwch, gan gael ei hadeiladu; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn nyddanwch yr Yspryd Glân, hi a amlhawyd.