Acts 9:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu, val ydd oedd Petr yn gorymddaith trwy ’r oll vvledydd, e ðaeth hefeit at y sainct oeð yn trigiaw yn Lydda.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu i Petr, pan yn tramwy trwy’r holl barthau, ddyfod i wared hefyd at y saint yn preswylio yn Luda;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A digwyddodd i Bedr, ac yntau’n mynd ar daith heibio i bawb, ddyfod i lawr at y saint oedd yn trigo yn Lyda.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, a Phedr yn tramwy trwy'r holl wledydd, iddo ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn trigo yn Lyda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Pedr yn teithio o gwmpas y wlad, ac aeth i ymweld â'r Cristnogion oedd yn Lyda.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd Pedr yn mynd ar daith ac yn galw heibio i bawb, fe ddaeth i lawr at y saint oedd yn trigo yn Lyda.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu i Petr, pan yn tramwy trwy yr holl barthau, ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn preswylio yn Lydda.