Acts 9:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yno y cauas neb dyn a enwit Aaineas, y vesei yn gorwedd yn ei wely wyth blynedd, ac oedd yn glaf o’r parlys.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chafodd yno ryw ddyn, Aineas wrth ei enw, er’s wyth mlynedd yn gorwedd ar orweddfa, yr hwn oedd glaf o’r parlys;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chafodd yno ryw ddyn, a’i enw Aeneas, oedd yn gorwedd ers wyth mlynedd ar ei wely, yn barlysedig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gafodd yno ryw ddyn a'i enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely, yr hwn oedd glaf o'r parlys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yno daeth ar draws dyn o'r enw Aeneas, oedd wedi ei barlysu ac wedi bod yn gaeth i'w wely ers wyth mlynedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yno cafodd ryw ddyn o'r enw Aeneas, a oedd yn gorwedd ers wyth mlynedd ar ei fatras, wedi ei barlysu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a gafodd yno ryw ddyn o'r enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar ei wely, yr hwn oedd wedi ei barlysu.