Acts 9:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Petr a ddyvot wrthaw, Aineas, yr Iesu Christ ’sy ith iachau: cyvot a’ gwna dy wely. Ac ef a gyvodes yn ebrwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wrtho y dywedodd Petr, Aineas, dy iachau y mae Iesu Grist: cyfod, a chyweiria dy wely i’th hun. Ac yn uniawn y cyfododd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd Pedr wrtho, “Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di; cyfod, a thanna dy wely.” Ac yn y fan cyfododd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr a ddywedodd wrtho, Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di: cyfod, a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Pedr yn dweud wrtho, “Aeneas, mae Iesu y Meseia am dy iacháu di. Cod ar dy draed a phlyga dy fatras.” Cafodd Aeneas ei iacháu ar unwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Pedr wrtho, "Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iachu di; cod, a chyweiria dy wely." Ac fe gododd ar unwaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phetr a ddywedodd wrtho, Aeneas, Y mae Iesu Grist yn dy iachâu di: Cyfod, a thaena dy wely. Ac yn ebrwydd efe a gyfododd.