Acts 9:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd hefyt yn Ioppa ryw discipules aei henw Tabitha (yr hon wrth hi deongl y ðywedir Dorcas) hon oedd yn gyflawn o weithredoeð da, ac o eleesenae ’r ei wnelei hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn Ioppa yr oedd rhyw ddisgybles a’i henw Tabitha, yr hwn o’i gyfieithu a elwir Dorcas; a hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusenau, y rhai a wnelai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd yn Ioppa ryw ddisgybles, a’i henw Tabitha, yr hyn o’i esbonio yw’r gair Dorcas; yr oedd hon yn llawn o weithredoedd da ac o wneuthur elusenau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn Jopa yr oedd rhyw ddisgybles a'i henw Tabitha, (yr hon os cyfieithir a elwir Dorcas;) hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusennau, y rhai a wnaethai hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna yn Jopa, roedd disgybl o'r enw Tabitha (Dorcas fyddai ei henw yn yr iaith Roeg). Roedd hi bob amser wedi gwneud daioni a helpu pobl dlawd,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yn Jopa ryw ddisgybl o'r enw Tabitha; ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Dorcas. Yr oedd hon yn llawn o weithredoedd da ac o elusennau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn Joppa yr oedd rhyw ddysgybles o'r enw Tabitha, ystyr yr hyn wedi ei gyfieithu yw, Dorcas: hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac o elusenau, y rhai a wnelai.