Acts 9:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac erwyð bot Lydda yn gyf agos i Ioppa, a’ chlywed o’r discipulon vot Petr yno, wy ðanvonesont atto ddau wr, gan ddeisyf na d oedei ðyuot atynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan fod Luda yn agos i Ioppa, y disgyblion wedi clywed fod Petr yno, a ddanfonasant ddau ŵr atto, gan ddeisyf arno, Nac oeda ddyfod trosodd hyd attom.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan fod Lyda yn agos i Ioppa, wedi i’r disgyblion glywed bod Pedr yno, anfonasant ddau ŵr ato i ddeisyf arno, “Nac oeda ddyfod drwodd hyd atom.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac oherwydd bod Lyda yn agos i Jopa, y disgyblion a glywsant fod Pedr yno; ac a anfonasant ddau ŵr ato ef, gan ddeisyf nad oedai ddyfod hyd atynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd y credinwyr fod Pedr yn Lyda (sydd ddim yn bell iawn o Jopa), dyma nhw'n anfon dau ddyn ato i ofyn iddo, “Plîs, tyrd ar unwaith!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan fod Lyda yn agos i Jopa, pan glywodd y disgyblion fod Pedr yno, anfonasant ddau ddyn ato i ddeisyf arno, "Tyrd drosodd atom heb oedi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan fod Lydda yn agos i Joppa, y dysgyblion, wedi clywed fod Petr yno, a anfonasant ddau wr ato, gan ddeisyf: Na fydded i ti oedi dyfod trosodd atom.