Acts 9:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cyvodes Petr ac yd aeth y gyd ac wynt: ac wedy ei ddyvot, wy ei dygesont ir oruch ystavell, lle ydd oedd yr oll wragedd‐gweddwon yn sefyll oei amgylch yn wylaw, ac yn dangos y peisiae a’r gwiscoedd, a wnaethai Dorcas, tra yt oeð hi y gyd ac wynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cyfodi, Petr a aeth gyda hwynt; ac ar ei ddyfodiad dygasant ef i fynu i’r llofft; ac yn ei ymyl y safodd yr holl wragedd gweddwon yn gwylo ac yn dangos peisiau a chochlau, y rhai a wnaeth Dorcas tra’r ydoedd gyda hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyfododd Pedr ac aeth gyda hwynt; ac wedi iddo gyrraedd dygasant ef i fyny i’r llofft, a safodd yr holl wragedd gweddwon yn ei ymyl dan wylo a dangos yr holl grysau a’r gynau a wnaethai Dorcas, pan oedd yn eu plith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr a gyfododd, ac a aeth gyda hwynt. Ac wedi ei ddyfod, hwy a'i dygasant ef i fyny i'r llofft: a'r holl wragedd gweddwon a safasant yn ei ymyl ef yn wylo, ac yn dangos y peisiau a'r gwisgoedd a wnaethai Dorcas tra ydoedd hi gyda hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Pedr gyda nhw, ac wedi iddo gyrraedd dyma fynd ag e i fyny'r grisiau i'r ystafell. Roedd yr ystafell yn llawn o wragedd gweddwon yn eu dagrau yn dangos iddo'r mentyll a'r dillad eraill roedd Dorcas wedi eu gwneud iddyn nhw pan roedd hi'n dal yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd Pedr ac aeth gyda hwy. Wedi iddo gyrraedd, aethant ag ef i fyny i'r ystafell, a safodd yr holl wragedd gweddwon yn ei ymyl dan wylo a dangos y crysau a'r holl ddillad yr oedd Dorcas wedi eu gwneud pan oedd gyda hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phetr a gyfododd ac a aeth gyda hwynt. Hwy, wedi iddo gyrhaedd, a'i harweiniasant ef i'r Oruwch‐ystafell; a'r holl wragêdd‐gweddwon a safasant yn ei ymyl yn wylo, ac yn arddangos yr is‐wisgoedd a'r uch-wisgoedd, cynifer ag a wnaethai Dorcas, tra yr oedd hi gyda hwynt.