Acts 9:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Petr y rhoes hwy oll y maes, ac estyngawdd ar ei liniae, ac a weddiawdd, ac a ymchwelawadd at y corph, ac a ddyvot, Tabitha, cyvot. Ac yhi a agores ei llygait, ac wedi y gwelas hi Petr, ydd eisteddawdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi bwrw allan yr oll o honynt, a dodi ei liniau ar lawr, Petr a weddïodd; a chan droi at y corph, dywedodd, Tabitha, cyfod; a hi a agorodd ei llygaid; a chan weled Petr, cyfododd yn ei heistedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bwriodd Pedr bawb allan a phenlinio a gweddïo, a chan droi at y corff fe ddywedodd, “Tabitha, cyfod.” Agorodd hithau ei llygaid, a phan welodd Bedr, cododd yn ei heistedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Pedr, wedi eu bwrw hwy i gyd allan, a dodi ei liniau ar lawr, a weddïodd; a chan droi at y corff, a ddywedodd, Tabitha, cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd hi Pedr, hi a gododd yn ei heistedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Pedr yn anfon pawb allan o'r ystafell, ac yna aeth ar ei liniau a gweddïo. Yna trodd at gorff y wraig oedd wedi marw, a dweud wrthi, “Tabitha, cod ar dy draed.” Agorodd ei llygaid! A phan welodd Pedr eisteddodd i fyny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond trodd Pedr bawb allan, a phenliniodd a gweddo, a chan droi at y corff meddai, "Tabitha, cod." Agorodd hithau ei llygaid, a phan welodd Pedr, cododd ar ei heistedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Petr, wedi eu bwrw hwynt oll allan, a myned ar ei liniau, a weddïodd; a chan droi at y corph, a ddywedodd, Tabitha, Cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd Petr, hi a eisteddodd i fyny.