Acts 9:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y rrodes ef y llaw iðhei, ac hei cyvodes i vyny dd: ac ef a elwis y sainct a’r gwrageð‐gweðwon, ac ef y adverodd hi yn vyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi rhoi iddi ei law, cyfododd efe hi i fynu; ac wedi galw y saint a’r gwragedd gweddwon, gosododd hi ger bron yn fyw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rhoddes yntau law iddi a’i chyfodi, ac wedi iddo alw y saint a’r gwragedd gweddwon fe’i cyflwynodd hi iddynt yn fyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a roddodd ei law iddi, ac a'i cyfododd hi i fyny. Ac wedi galw y saint a'r gwragedd gweddwon, efe a'i gosododd hi gerbron yn fyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gafaelodd Pedr yn ei llaw a'i helpu i sefyll ar ei thraed. Wedyn galwodd Pedr y credinwyr a'r gwragedd gweddwon yn ôl i mewn a dangos iddyn nhw fod Dorcas yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd yntau ei law iddi a'i chodi, a galwodd y saint a'r gwragedd gweddwon, a'i chyflwyno iddynt yn fyw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a roddodd iddi ei law, ac a'i cyfododd i fyny; a chan alw y saint a'r gwragedd‐gweddwon, efe a'i cyflwynodd hi ger bron yn fyw.