Acts 9:43 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu, yd pan oedd yddaw drigaw lawer o ddyddiae yn Ioppa, gyd ac vn Simon barker.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu iddo aros ddyddiau lawer yn Ioppa gydag un Shimon, barcer.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac arhosodd dalm o ddyddiau yn Ioppa gyda rhyw Simon, barcer.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu iddo aros yn Jopa lawer o ddyddiau gydag un Simon, barcer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Arhosodd Pedr yno am gryn amser, yn lletya yn nhŷ gweithiwr lledr o'r enw Simon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arhosodd Pedr am beth amser yn Jopa gyda rhyw farcer o'r enw Simon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu iddo aros ddyddiau lawer yn Joppa gyda rhyw Simon, barcer.