Acts 9:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot, Pwy yt wyt Arglwydd? A’r Arglwydd a ddyvot, Mi yw Iesu yr hwn a erlydi di: calet yw yty wingo yn erbyn y swmbyl æ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd efe, Pwy wyt, Arglwydd? Ac Efe a ddywedodd, Myfi wyf Iesu, yr Hwn yr wyt ti yn Ei erlid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau, “Pwy wyt ti, Arglwydd?” Ebr yntau, “Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd, Pwy wyt ti, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid: caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pwy wyt ti, syr?” gofynnodd Saul. “Iesu ydw i,” atebodd, “yr un rwyt ti'n ei erlid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau, "Pwy wyt ti, Arglwydd?" Ac ebe'r llais, "Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd, Pwy wyt, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid,