Acts 9:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Efe yno ac yn echrynedic ac yn synn, a ddyvot, Arglwydd, Pa beth a vynny i imi ei wneythyd? A’r Arglwydd a ddyuot wrthaw, Cyvot a does ir dinas, ac e ddywedir yty pa beth vydd dir yty ei wneythy d.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr cyfod, a dos i’r ddinas, a dywedir wrthyt pa beth y mae rhaid i ti ei wneuthur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr cyfod a dos i mewn i’r ddinas, ac fe ddywedir i ti pa beth sy raid i ti ei wneuthur.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau gan grynu, ac â braw arno, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i'r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nawr cod ar dy draed a dos i mewn i'r ddinas. Cei di wybod yno beth mae'n rhaid i ti ei wneud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cod, a dos i mewn i'r ddinas, ac fe ddywedir wrthyt beth sy raid iti ei wneud."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chyfod, dos i'r Ddinas, a dywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur.