Acts 9:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r gwyr oedd yn cydymddeith ffordd ac ef, a safasant wedy sanny, gan glywet y llef, ac eb yddwynt welet nebun.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r dynion oedd yn cyd-deithio ag ef a safasant yn fud, yn clywed y llais yn wir, ond heb weled neb.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A safai’r gwŷr a gydymdeithiai ag ef yn fud, yn clywed y llais eithr heb weled neb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwŷr oedd yn cyd‐deithio ag ef a safasant yn fud, gan glywed y llais, ac heb weled neb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y rhai oedd yn teithio gydag e yn sefyll yn fud; roedden nhw'n clywed y llais ond doedden nhw ddim yn gweld neb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y dynion oedd yn cyddeithio ag ef yn sefyll yn fud, yn clywed y llais ond heb weld neb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y gwyr oedd yn cyd-deithio ag ef a safasant yn fud, gan glywed y llais yn wir, ond heb weled neb.