Acts 9:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Saul a gyvodes o yar y ddaiar, ac a gores ei lygaid, ac ny welawð ef vndyn. Yno yr arwenesant ef erwydd ei law, ac ei duc e sont y Damasco.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chyfododd Shawl oddiar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai ddim; a chan ei dywys erbyn ei law, dygasant ef i mewn i Damascus;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyfododd Saul oddiar lawr, ac a’i lygaid yn agored, ni welai ddim; a dygasant ef gerfydd ei law i mewn i Ddamascus.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Saul a gyfododd oddi ar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai efe neb: eithr hwy a'i tywysasant ef erbyn ei law, ac a'i dygasant ef i mewn i Ddamascus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cododd Saul ar ei draed, ond pan agorodd ei lygaid, doedd e ddim yn gallu gweld. Felly dyma nhw'n gafael yn ei law ac yn ei arwain i mewn i dre Damascus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd Saul oddi ar lawr, ond er bod ei lygaid yn agored ni allai weld dim. Arweiniasant ef gerfydd ei law i mewn i Ddamascus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Saul a gyfododd oddiar y ddaear; ac wedi agoryd o'i lygaid ef, ni welai ddim; a chan ei arwain gerfydd ei law, hwy a'i dygasant i mewn i Damascus.