Amos 1:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Drylliaf drosol Damascus, a thorraf ymaith y preswylwyr o ddyffryn Afen, a'r hwn sydd yn dal teyrnwialen o dŷ Eden; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n dryllio barrau giatiau Damascus, yn cael gwared â'r un sy'n llywodraethu ar Ddyffryn Afen, a'r un sy'n teyrnasu yn Beth-eden. Bydd pobl Syria yn cael eu cymryd yn gaeth i ardal Cir.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Drylliaf farrau pyrth Damascus, a thorraf ymaith y trigolion o ddyffryn Afen, a pherchen y deyrnwialen o Beth-eden; a chaethgludir pobl Syria i Cir," medd yr ARGLWYDD.