Amos 1:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o'r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Tyrus wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi torri'r cytundeb gyda'i brodyr drwy gymryd pentrefi cyfan yn gaeth, a'u gwerthu nhw i wlad Edom,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau Tyrus, ac am bedwar, ni throf y gosb yn l; am iddynt gaethgludo poblogaeth gyfan i Edom, ac anghofio cyfamod brawdol,