Amos 2:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr ARGLWYDD, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a'u celwyddau a'u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Jwda wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi troi eu cefnau ar gyfraith yr ARGLWYDD, a heb gadw ei orchmynion e. Maen nhw'n cael eu harwain ar gyfeiliorn gan y duwiau ffals oedd eu hynafiaid yn eu dilyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Am dri o droseddau Jwda, ac am bedwar, ni throf y gosb yn l; am iddynt wrthod cyfraith yr ARGLWYDD, a pheidio chadw ei ddeddfau, a'u denu ar gyfeiliorn gan y celwyddau a ddilynwyd gan eu hynafiaid,