Amos 2:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a ddyheant ar ôl llwch y ddaear ar ben y tlodion, ac a wyrant ffordd y gostyngedig: a gŵr a'i dad a â at yr un llances, i halogi fy enw sanctaidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
sathru'r tlawd fel baw ar lawr, a gwthio'r gwan o'r ffordd! Ac mae dyn a'i dad yn cael rhyw gyda'r un gaethferch, ac yn amharchu fy enw glân i wrth wneud y fath beth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
am eu bod yn sathru pen y tlawd i'r llwch ac yn ystumio ffordd y gorthrymedig; am fod dyn a'i dad yn mynd at yr un llances, fel bod halogi ar fy enw sanctaidd;