Amos 2:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto myfi a ddinistriais yr Amoriad o'u blaen hwynt, yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd, ac efe oedd gryf fel derw; eto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, a'i wraidd oddi tanodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac eto, fi wnaeth ddinistrio'r Amoriaid o flaen eich hynafiaid chi! — yr Amoriaid oedd yn dal fel cedrwydd ac yn gryf fel coed derw. Ond dyma fi'n eu torri nhw i lawr yn llwyr, o'u brigau uchaf i'w gwreiddiau!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Eto, myfi a ddinistriodd yr Amoriad o'u blaenau, a'i uchder fel uchder cedrwydd a'i gryfder fel y derw; dinistriais ei ffrwyth oddi arno a'i wreiddiau oddi tano.