Amos 3:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwy goes, neu ddarn o glust; felly yr achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwr gwely, ac yn Damascus mewn gorweddle.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fel bugail yn ‛achub‛ unrhyw beth o safn y llew — dwy goes, neu ddarn o'r glust — dyna'r math o ‛achub‛ fydd ar bobl Israel sy'n byw yn Samaria. Dim ond coes y gwely neu gornel y fatras fydd ar ôl!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Fel y gwareda'r bugail ddwy goes neu ddarn o glust o safn y llew, felly o'r Israeliaid sy'n trigo yn Samaria, gwaredir cwr o fatras neu ddarn o wely."