Amos 3:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mai y dydd yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef, y gofwyaf hefyd allorau Bethel: a chyrn yr allor a dorrir, ac a syrthiant i'r llawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan fydda i'n cosbi Israel am wrthryfela, bydda i'n dinistrio'r allor sydd yn Bethel. Bydd y cyrn ar gorneli'r allor yn cael eu torri ac yn disgyn ar lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ar y dydd y cosbaf Israel am ei bechodau, fe gosbaf allorau Bethel; torrir cyrn yr allor, a syrthiant i'r llawr.