Amos 3:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth? a leisia cenau llew o'i ffau, heb ddal dim?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy llew yn rhuo yn y goedwig pan does ganddo ddim ysglyfaeth? Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffau oni bai ei fod wedi dal rhywbeth?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A rua llew yn y goedwig pan fydd heb ysglyfaeth? A waedda'r llew ifanc o'i ffau pan fydd heb ddal dim?