Amos 4:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Anfonais yr haint yn eich mysg, megis yn ffordd yr Aifft: eich gwŷr ieuainc a leddais â'r cleddyf, gyda chaethgludo eich meirch; a chodais ddrewi eich gwersylloedd i'ch ffroenau: eto ni throesoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma fi'n anfon afiechydon i'ch poenydio, fel y plâu yn yr Aifft. Dyma fi'n lladd eich milwyr ifanc yn y rhyfel, a chymryd eich meirch rhyfel oddi arnoch. Roedd yr holl gyrff marw yn drewi yn eich gwersyll. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Anfonais arnoch haint fel haint yr Aifft; lleddais eich llanciau 'r cleddyf, a chaethgludo eich meirch; gwneuthum i ddrewdod eich gwersyll godi i'ch ffroenau; er hynny ni throesoch yn l ataf," medd yr ARGLWYDD.