Amos 4:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi hefyd a ateliais y glaw rhagoch, pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf: glawiais hefyd ar un ddinas, ac ni lawiais ar ddinas arall: un rhan a gafodd law; a'r rhan ni chafodd law a wywodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Fi rwystrodd hi rhag glawio pan oedd y cnydau angen glaw i dyfu. Roeddwn i'n rhoi glaw i un dre a dim glaw i dre arall. Roedd hi'n glawio ar un cae, ond doedd cae arall yn cael dim glaw o gwbl ac roedd y cnwd yn gwywo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Myfi hefyd a ataliodd y glaw oddi wrthych, pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf; rhoddais law ar un ddinas, a'i atal oddi ar un arall; glawiodd ar un cae, a gwywodd y cae na chafodd law;