Amos 5:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd hynny am i chwi sathru y tlawd, a dwyn y beichiau gwenith oddi arno; chwi a adeiladasoch dai o gerrig nadd, ond ni thrigwch ynddynt; planasoch winllannoedd hyfryd, ac nid yfwch eu gwin hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwm a dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw: Er eich bod chi wedi adeiladu'ch tai crand o gerrig nadd, gewch chi ddim byw ynddyn nhw. Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd, gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, am ichwi sathru'r tlawd, a chymryd oddi arno ei gyfran gwenith er ichwi godi tai o gerrig nadd, ni chewch fyw ynddynt; er ichwi blannu gwinllannoedd hyfryd, ni chewch yfed eu gwin.