Amos 5:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mi a adwaen eich anwireddau lawer, a'ch pechodau cryfion: y maent yn blino y cyfiawn, yn cymryd iawn, ac yn troi heibio y tlawd yn y porth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml, ac wedi pechu'n ddiddiwedd drwy gam-drin pobl onest, a derbyn breib i wrthod cyfiawnder i bobl dlawd pan maen nhw yn y llys!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canys gwn mor niferus yw'ch troseddau ac mor fawr yw'ch pechodau chwi, sy'n gorthrymu'r cyfiawn, yn derbyn llwgrwobr, ac yn troi ymaith y tlawd yn y porth.