Amos 5:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, yr Arglwydd; Ym mhob heol y bydd cwynfan, ac ym mhob priffordd y dywedant, O! O! a galwant yr arddwr i alaru; a'r neb a fedro alaru, i gwynfan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi'n eu gwneud, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — fy Meistr i, y Duw holl-bwerus: “Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr, a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’ Bydd y rhai tlawd sy'n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru, a bydd y galarwyr proffesiynol yno yn nadu'n uchel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, yr Arglwydd: "Ym mhob sgwr fe fydd wylo, ym mhob stryd fe ddywedant, 'Och! Och!' Galwant ar y llafurwr i alaru ac ar y galarwyr i gwynfan.