Amos 6:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ei ewythr a'i cyfyd i fyny, a'r hwn a'i llysg, i ddwyn yr esgyrn allan o'r tŷ, ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo wrth ystlysau y tŷ, A oes eto neb gyda thi? ac efe a ddywed, Nac oes: yna y dywed yntau, Taw; am na wasanaetha cofio enw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna bydd perthynas yn dod i gasglu'r cyrff o'r tŷ — gyda'r bwriad o'u llosgi. A bydd yn galw ar rywun sy'n cuddio yng nghefn y tŷ, “Oes unrhyw un arall yn fyw ond ti?” ac yn cael yr ateb, “Na, neb.” Yna bydd yn dweud, “Ust! paid hyd yn oed â dweud enw'r ARGLWYDD”.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaw perthynas, sydd am losgi un ohonynt, yno i'w godi a dwyn ei gorff allan o'r tu375?, a dweud wrth un sydd yng nghanol y tu375?, "A oes rhywun gyda thi?" fe ddywed yntau, "Nac oes." Yna fe ddywed, "Taw! Nid yw enw'r ARGLWYDD i'w grybwyll."