Amos 6:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tramwywch i Calne, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf; yna disgynnwch i Gath y Philistiaid: ai gwell ydynt na'r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwy na'ch terfyn chwi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n dweud wrthyn nhw, “Ewch draw i ddinas Calne, i weld sut mae pethau yno! Ewch yn eich blaen wedyn i Chamath fawr, ac i lawr i Gath y Philistiaid. Ydy pethau'n well arnyn nhw nag ar y ddwy wlad yma? Oes ganddyn nhw fwy o dir na chi?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ewch trosodd i Calne ac edrychwch; oddi yno ewch i Hamath fawr, ac yna i lawr i Gath y Philistiaid. A ydynt yn well na'ch teyrnasoedd chwi? A yw eu tiriogaeth yn fwy na'r eiddoch chwi?