Amos 6:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyda'r cyntaf a ddygir yn gaeth; a gwledd y rhai a ymestynnant, a symudir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, chi fydd y rhai cyntaf i gael eich caethgludo, a hynny'n fuan iawn! Bydd y gwledda a'r gorweddian yn dod i ben!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, yn awr, chwi fydd y cyntaf i'r gaethglud; derfydd am rialtwch y rhai sy'n gorweddian.