Amos 7:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid proffwyd oeddwn i, ac nid mab i broffwyd oeddwn i: namyn bugail oeddwn i, a chasglydd ffigys gwylltion:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Amos yn ateb Amaseia: “Dw i ddim yn broffwyd proffesiynol, nac yn perthyn i urdd o broffwydi. Bridio anifeiliaid a thyfu coed ffigys oeddwn i'n ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond atebodd Amos a dweud wrth Amaseia, "Nid oeddwn i'n broffwyd, nac yn fab i broffwyd chwaith; bugail oeddwn i, a garddwr coed sycamor;