Amos 7:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dy wraig a buteinia yn y ddinas, dy feibion a'th ferched a syrthiant gan y cleddyf, a'th dir a rennir wrth linyn; a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig, a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o'i wlad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd dy wraig di yn gwerthu ei chorff fel putain yn y strydoedd, a bydd dy feibion a dy ferched yn cael eu lladd yn y rhyfel. Bydd dy dir di'n cael ei rannu i eraill, a byddi di'n marw mewn gwlad estron. Achos bydd Israel yn cael ei chymryd i ffwrdd yn gaeth o'i thir.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Bydd dy wraig yn puteinio yn y ddinas; fe syrth dy feibion a'th ferched trwy'r cleddyf; rhennir dy dir 'r llinyn; byddi dithau'n marw mewn gwlad aflan, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.'"