Amos 7:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddarfu iddynt fwyta glaswellt y tir, yna y dywedais, Arbed, ARGLWYDD, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n mynd i ddinistrio'r planhigion i gyd, a dyma fi'n dweud, “O Feistr, ARGLWYDD, plîs maddau! Sut all pobl Jacob oroesi? Maen nhw'n rhy wan.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oeddent yn gorffen bwyta gwellt y ddaear, dywedais, "O Arglwydd DDUW, maddau! Sut y saif Jacob, ac yntau mor fychan?"