Amos 8:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Troaf hefyd eich gwyliau yn alar, a'ch holl ganiadau yn oernad: dygaf sachliain ar yr holl lwynau, a moelni ar bob pen: a mi a'i gwnaf fel galar am unmab, a'i ddiwedd fel dydd chwerw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n troi eich partïon yn angladdau a'ch holl ganeuon yn gerddi galar. Bydda i'n rhoi sachliain amdanoch chi, a bydd pob pen yn cael ei siafio. Bydd fel y galaru pan mae rhywun wedi colli unig fab; fydd y cwbl yn ddim byd ond un profiad chwerw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trof eich gwyliau yn alaru a'ch holl ganiadau yn wylofain; rhof sachliain am eich llwynau a moelni ar eich pennau. Fe'i gwnaf yn debyg i alar am unig fab; bydd ei ddiwedd yn ddiwrnod chwerw.