Amos 8:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a dyngant i bechod Samaria, ac a ddywedant, Byw yw dy dduw di, O Dan; a, Byw yw ffordd Beerseba; hwy a syrthiant, ac ni chodant mwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y rhai sy'n tyngu llw i eilun cywilyddus Samaria, ac yn dweud, “Fel mae dy dduw di yn fyw, Dan!” neu “Fel mae'r un cryf sydd ynot ti yn fyw Beersheba!” — byddan nhw'n syrthio, a byth yn codi eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y rhai sy'n tyngu i Asima Samaria, ac yn dweud, 'Cyn wired bod dy dduw yn fyw, Dan', neu, 'Cyn wired bod dy dduw yn fyw, Beerseba' fe syrthiant oll heb godi byth mwy."
Recommended Reading