Amos 8:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Beth a weli di, Amos? A mi a ddywedais, Cawellaid o ffrwythydd haf. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt mwyach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld, Amos?” Dyma finnau'n ateb, “Basged yn llawn ffigys aeddfed”. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae'r diwedd wedi dod ar fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a gofynnodd ef, "Beth a weli, Amos?" Atebais innau, "Basgedaid o ffrwythau haf." Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt byth eto.