Amos 8:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Pa bryd yr â y mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a'r Saboth, fel y dygom allan y gwenith, gan brinhau yr effa, a helaethu y sicl, ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Chi sy'n mwmblan i'ch hunain, “Pryd fydd Gŵyl y lleuad newydd drosodd? — i ni gael gwerthu'n cnydau eto. Pryd fydd y dydd saboth drosodd? — i ni gael gwerthu'r ŷd eto. Gallwn godi pris uchel am fesur prin, a defnyddio clorian sy'n twyllo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yn dweud, "Pa bryd y mae'r newydd-loer yn diweddu, inni gael gwerthu u375?d; a'r saboth, inni roi'r grawn ar werth, inni leihau'r effa a thrymhau'r sicl, inni gael twyllo chloriannau anghywir,