Amos 9:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll ar yr allor: ac efe a ddywedodd, Taro gapan y drws, fel y siglo y gorsingau; a thor hwynt oll yn y pen; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â'r cleddyf: ni ffy ymaith ohonynt a ffo, ac ni ddianc ohonynt a ddihango.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelais fy Meistr yn sefyll wrth yr allor, ac meddai fel hyn: “Taro ben y colofnau nes bydd y sylfeini'n ysgwyd! Bydd y cwbl yn syrthio ar ben yr addolwyr, A bydda i'n lladd pawb sydd ar ôl mewn rhyfel. Fydd neb o gwbl yn llwyddo i ddianc!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw'r allor, ac yn dweud, "Taro gapan y drws nes i'r rhiniogau ysgwyd, a maluria hwy ar eu pennau i gyd; y rhai a adewir, fe'u lladdaf 'r cleddyf; ni ffy yr un ohonynt ymaith, ni ddianc yr un ohonynt.