Amos 9:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y goddiwedd yr arddwr y medelwr, a sathrydd y grawnwin yr heuwr had; a'r mynyddoedd a ddefnynnant felyswin, a'r holl fryniau a doddant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwyliwch chi!” meddai'r ARGLWYDD, “Mae'r amser yn dod, pan fydd cymaint o gnwd, bydd hi'n amser aredig eto cyn i'r cynhaeaf i gyd gael ei gasglu! A bydd cymaint o rawnwin, byddan nhw'n dal i'w sathru pan fydd yr amser wedi dod i hau'r had eto. Bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedd a bydd yn llifo i lawr y bryniau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Wele'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "pan fydd yr un sy'n aredig yn goddiweddyd y sawl sy'n medi, a'r sawl sy'n sathru'r grawnwin yn goddiweddyd y sawl sy'n hau'r had; bydd y mynyddoedd yn diferu gwin newydd, a phob bryn yn llifo ohono.