Amos 9:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel; a hwy a adeiladant y dinasoedd anghyfannedd, ac a'u preswyliant; a hwy a blannant winllannoedd, ac a yfant o'u gwin; gwnânt hefyd erddi, a bwytânt eu ffrwyth hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n dod â'm pobl Israel yn ôl i'w gwlad. Byddan nhw'n ailadeiladu'r trefi sy'n adfeilion, ac yn cael byw ynddyn nhw unwaith eto. Byddan nhw'n plannu gwinllannoedd ac yn yfed y gwin. Byddan nhw'n trin eu gerddi ac yn bwyta'r ffrwythau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Adferaf lwyddiant fy mhobl Israel, ac adeiladant y dinasoedd adfeiliedig, a byw ynddynt; plannant winllannoedd ac yfed eu gwin, palant erddi a bwyta'u cynnyrch.