Amos 9:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pe cloddient hyd uffern, fy llaw a'u tynnai hwynt oddi yno; a phe dringent i'r nefoedd, mi a'u disgynnwn hwynt oddi yno:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hyd yn oed tasen nhw'n cloddio i lawr i Fyd y Meirw, byddwn i'n dal i gael gafael ynddyn nhw! A tasen nhw'n dringo i fyny i'r nefoedd, byddwn i'n eu tynnu nhw i lawr oddi yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pe baent yn cloddio hyd at Sheol, fe dynnai fy llaw hwy oddi yno; pe baent yn dringo i'r nefoedd, fe'u dygwn i lawr oddi yno.