Amos 9:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, oddi yno y gorchmynnaf i'r cleddyf, ac efe a'u lladd hwynt: a gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg, ac nid er da iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Petai eu gelynion nhw yn eu gyrru nhw i'r gaethglud, byddwn i'n gorchymyn i'r cleddyf eu lladd nhw yno. Dw i'n hollol benderfynol o wneud drwg iddyn nhw ac nid da.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pe bai eu gelynion yn eu dwyn ymaith i gaethglud, fe rown orchymyn i'm cleddyf eu lladd yno; cadwaf fy ngolwg arnynt, er drwg ac nid er da."